Cyn Argyfwng

Cyngor i'ch helpu i baratoi

  • Byddwch yn ymwybodol o'r peryglon yn eich ardal - cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld y peryglon yn eich ardal
  • Lluniwch restr o gysylltiadau argyfwng y gallai fod eu hangen arnoch, er enghraifft manylion cyswllt yr ysgol, y gwaith, yswiriant a'r deintydd, a'u cadw lle rydych yn gwybod y byddwch yn dod o hyd iddynt yn hawdd
  • Ystyriwch greu Cynllun Argyfwng i'r Cartref.
  • Os ydych mewn parth llifogydd, ystyriwch amddiffynfeydd llifogydd
  • Byddwch yn ymwybodol o le caiff dŵr, nwy a thrydan eu cyflenwi i'ch cartref a dysgwch sut i'w diffodd.
  • Sicrhewch fod gennych yswiriant a'ch bod yn gwybod lleoliad y dogfennau. Mae'n bosib hefyd yr hoffech baratoi trwy lungopïo'r dogfennau a'u cadw'n ddiogel mewn lleoliad arall y tu allan i'ch cartref.
  • Sicrhewch eich bod wedi storio cysylltiadau ICE ('In Case of Emergency') yn eich ffôn symudol.
  • Ystyriwch gyflawni cwrs cymorth cyntaf fel y byddwch yn barod ar gyfer argyfyngau meddygol.
  • drefnu cwdyn cydio i'w gadw gartref ac yn y car a rhowch ynddo bethau megis cysylltiadau, dogfennau pwysig a gwefrwr ffonau symudol.

Dylai'ch Cwdyn Cydio gynnwys:

  • copi o'ch Cynllun Argyfwng i'r Cartref
  • copi o ddogfennau pwysig mewn cwdyn diddos (yswiriant, pasbort, tystysgrif geni, copïau o ffotograffau teuluol etc)
  • (weindio neu fatri) a batris sbâr
  • radio (weindio neu fatri) a batris sbâr
  • pecyn cymorth cyntaf
  • meddyginiaeth/nwyddau iechyd a chopïau o slipiau presgripsiwn
  • nwyddau ymolchi a hylendid menywod
  • nwyddau gofal plant (cewynnau, bwyd, teganau, dillad, blanced etc)
  • set ychwanegol o allweddi tŷ a char
  • ffôn symudol a'i wefrwr
  • waled, pwrs, cardiau banc
  • nodiadur a phensil
  • sach ddu/leiner bin
  • cludwr, coler, tennyn a bwyd anifail anwes
  • dŵr potel
  • bariau byrbrydau
  • sbectol sbâr