Yn Ystod Argyfwng
Y cyngor ar gyfer y rhan fwyaf o argyfyngau yw: Ewch i Mewn, Arhoswch i Mewn, Gwrandewch.
Cyngor ychwanegol yw:
- Rhowch wybod i'r gwasanaethau brys trwy
ffonio 999 a dilyn eu cyngor hwy.
- Peidiwch â rhoi'ch hunan nac eraill mewn
perygl.
- Edrychwch am anafiadau i chi'ch hun ac i
eraill ond dylech bob amser drin eich hun gyntaf.
- Byddwch yn ymwybodol o unrhyw gymdogion
oedrannus neu ddiamddiffyn a allai fod angen eich help arnynt.
- Os cewch eich cynghori i wneud felly, byddwch
yn barod i adael y cartref a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau a
roddir.
Gallai'r argyfyngau brys ofyn i chi:
Mewn rhai argyfyngau, bydd angen i chi aros yn eich cartref;
mewn rhai eraill, gallai fod angen i chi adael yr adeilad. Trwy
ddilyn rhai camau syml, gallwch fod yn fwy parod petai argyfwng yn
digwydd a'ch bod gartref.
Cofiwch siarad â'ch teulu neu bobl eraill yn eich tŷ am eich
cynlluniau.