Cyngor ar gyfer Peryglon Penodol

  • Ffliw Pandemig
    Mae ffliw pandemig yn un o'r heriau naturiol mwyaf difrifol sy'n debygol o effeithio ar y DU. Bydd partneriaid yr SWLRF yn gweithio gyda'i gilydd a, chydag arweiniad y Llywodraeth, byddant yn paratoi ar gyfer ffliw pandemig er mwyn helpu i leihau ei effaith.
  • Digwyddiadau Diwydiannol
    Mae gan Gastell-nedd Port Talbot ac Abertawe hanes o fod yn ardaloedd diwydiannol iawn. Mae'r gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill, megis yr awdurdod lleol, wedi llunio gweithdrefnau safonol i ymdrin â'r fath ddigwyddiadau.
  • Ton wres
    Mae tonnau gwres difrifol yn eithaf anghyffredin yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r profiad ar draws gogledd-orllewin Ewrop yn 2003 pan fu farw 27,000 o bobl yn uniongyrchol o ganlyniad i don wres y flwyddyn honno yn ein hatgoffa bod gwres yn gallu lladd. Yn achos ton wres, sicrhewch eich bod yn gofalu am eich iechyd eich hun ac iechyd eich teulu. Nid plant yn unig sydd angen sylw arbennig; byddwch yn ymwybodol bod pobl oedrannus hefyd mewn peryg, a gwnewch yn siŵr bod rhywun yn cadw llygad arnynt.
  • Eira a thywydd oer
    Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r DU wedi profi cyfnodau o dymereddau isel ac eira parhaus sy'n gallu cael effaith sylweddol ar fywyd pob dydd. Mae'r rhain wedi cynyddu nifer yr anafiadau oherwydd damweiniau a chwympiadau, methiant dulliau cyfathrebu a chyflenwadau pŵer a chau rhwydweithiau trafnidiaeth.
  • Llifogydd
    Mae gan yr Uned Gydnerthu drefniadau yn eu lle i fonitro ac ymateb i lifogydd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'r Uned Gydnerthu a Cyfoeth Naturiol Cymru'n cydweithio'n agos i sicrhau bod trefniadau yn eu lle i gynorthwyo cymunedau sy'n dioddef o lifogydd.