Llifogydd ym MhontarddulaisMae gan yr Uned Gydnerthu drefniadau yn eu lle i fonitro ac ymateb i lifogydd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'r Uned Gydnerthu a Cyfoeth Naturiol Cymru'n cydweithio'n agos i sicrhau bod trefniadau yn eu lle i gynorthwyo cymunedau sy'n dioddef o lifogydd.

Gall llifogydd fod yn berygl difrifol i fywydau ac eiddo. Trwy gymryd rhagofalon syml, gallwch leihau'r difrod a achosir gan lifogydd. Mae gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig rhybuddion llifogydd i Gymru. Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i breswylwyr dderbyn rhybuddion llifogydd sy'n berthnasol i'w lleoliad. Gellir anfon rhybuddion 24 awr y dydd i gyfeiriadau e-bost, ffonau symudol (mewn neges destun SMS), neges lais (i ffôn llinell dir), ffacs neu beiriant galw. Yn ogystal, gellir defnyddio gwasanaeth ffôn ‘Rhybuddion Llifogydd’ ddydd a nos i gael rhybuddion a chyngor amser go iawn am lifogydd.

Rhif ffôn Llinell Lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru 0345 988 1188

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n darparu gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim i gartrefi a busnesau sydd mewn perygl o'r afonydd a'r môr. I gael gwybod a ydych mewn perygl o lifogydd, cofrestru i dderbyn rhybuddio llifogydd am ddim a lawrlwytho cyngor ymarferol arall, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ogystal â'r mesurau isod, mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n darparu amrywiaeth o awgrymiadau a chyngor ymarferol ynglŷn â'r hyn i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.

Cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Tri cham Cyfoeth Naturiol Cymru i'w cymryd i baratoi at lifogydd:

  1. Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu ffoniwch eu Llinell Lifogydd 24 awr ar 0345 988 1188 neu cewch wybod a ydych mewn perygl o lifogydd.
  2. Cewch wybod a yw rhybuddion llifogydd ar gael yn eich ardal chi.
  3. Sicrhewch eich bod yn deall codau'r rhybuddion llifogydd fel y byddwch yn gwybod beth i'w wneud pan roddir rhybudd.