Ton wres

Mae tonnau gwres difrifol yn eithaf anghyffredin yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r profiad ar draws gogledd-orllewin Ewrop yn 2003 pan fu farw 27,000 o bobl yn uniongyrchol o ganlyniad i don wres y flwyddyn honno yn ein hatgoffa bod gwres yn gallu lladd.  Yn achos ton wres, sicrhewch eich bod yn gofalu am eich iechyd eich hun ac iechyd eich teulu. Nid plant yn unig sydd angen sylw arbennig; byddwch yn ymwybodol bod pobl oedrannus hefyd mewn peryg, a gwnewch yn siŵr bod rhywun yn cadw llygad arnynt.

Cadw allan o'r gwres

  • Os rhagfynegir ton wres, ceisiwch drefnu'ch dydd mewn ffordd sy'n eich galluogi i gadw allan o'r gwres;
  • Dylech osgoi alcohol gan y gall achosi dihydradu;
  • Os nad ydych yn gallu osgoi gweithgaredd awyr agored egnïol megis chwaraeon, DIY neu arddio, gwnewch y pethau hyn pan fo'r diwrnod yn llai twym, fel yn y bore cynnar.
  • Os oes rhaid i chi fynd allan, arhoswch yn y cysgod. Gwisgwch het a dillad ysgafn a llac, o gotwm os bo modd. Os byddwch yn yr awyr agored am beth amser, ewch â digon o ddŵr gyda chi.

Aros yn gysurus oer

  • Arhoswch dan do yn ystafelloedd oeraf eich cartref cymaint â phosib;
  • Caewch y llenni yn yr ystafelloedd sy'n cael llawer o haul;
  • Cadwch y ffenestri ar gau pan fo'r ystafell yn oerach nag y mae y tu allan;
    Agorwch y rhain pan fo'r tymheredd y tu mewn yn codi, ac yn ystod y nos er mwyn awyru'r ystafell. Os ydych yn poeni am ddiogelwch, dylech o leiaf agor ffenestri ar y llawr cyntaf ac yn uwch;
  • Cymerwch gawodydd neu faddonau cysurus oer a thasgu dŵr oer drosoch chi'ch hun, yn benodol ar eich wyneb a'ch gwâr.

Yfwch yn rheolaidd

  • Yfwch yn rheolaidd hyd yn oed os nad ydych yn teimlo bod syched arnoch - dŵr a sudd oren sydd orau;
  • Dylech chi osgoi te, coffi ac alcohol am eu bod yn gallu achosi dihydradu;
  • Bwytewch fel y byddech fel arfer. Ceisiwch fwyta mwy o fwyd oer, yn benodol saladau a ffrwythau, sy'n cynnwys dŵr.

Gofynnwch am gyngor

  • Cysylltwch â'ch meddyg, fferyllydd neu Galw Iechyd Cymru (0845 4647) os ydych yn poeni am eich iechyd yn ystod ton wres, yn enwedig os ydych yn cymryd meddyginiaeth neu os oes gennych unrhyw symptomau anarferol;
  • Gofalwch amdanoch chi'ch hun ac eraill, yn enwedig y rhai sydd mewn mwy o risg megis pobl oedrannus a phlant: mae symptomau lludded gwres yn cynnwys pen tost, pendro, y gyfog, chwydu, gwendid neu gramp yn y cyhyrau, croen gwelw a thymheredd uchel. Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn profi cynnydd sydyn yn ei dymheredd, dryswch neu ddiffyg ymwybyddiaeth, efallai fod trawiad gwres wedi datblygu;
  • Os ydych yn profi'r symptomau hyn am sawl awr, cadwch yn gysurus oer ac yfwch ddŵr neu sudd oren. Gofynnwch am gyngor meddygol os ydych yn gwaethygu neu os nad yw'r symptomau'n diflannu.

Argymhellir i bobl sy'n poeni am eu hiechyd yn ystod ton wres drafod hyn â'u meddyg teulu, fferyllydd neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647 neu ewch i'r wefan: www.nhsdirect.nhs.uk