Digwyddiadau Diwydiannol

Cefndir

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot ac Abertawe hanes o fod yn ardaloedd diwydiannol iawn. Mae'r gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill, megis yr awdurdod lleol, wedi llunio gweithdrefnau safonol i ymdrin â'r fath ddigwyddiadau.

Mae'r rhan fwyaf o safleoedd yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod safleoedd diwydiannol yn ddiogel. Yr enw am un o'r rheoliadau yw Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH). Mae angen cynllun ar safleoedd o'r fath er mwyn ymateb i ddamwain fawr sy'n effeithio ar y safle a lleihau'r effaith ar y gymuned o'i amgylch. Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch –  COMAH

Cyn Argyfwng

Bydd safleoedd penodol sydd wedi'u nodi gan yr HSE yn cysylltu â'r cymdogion a'r cymunedau sy'n agos iddynt ac yn rhoi arweiniad perthnasol iddynt ynglŷn a'r hyn i'w wneud yn ystod argyfwng. Os yw eich eiddo o fewn y Parth Gwybodaeth Gyhoeddus, bydd y safle wedi cysylltu â chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.

Yn Ystod Damwain Fawr

Os yw eich lleoliad o fewn y Parth Gwybodaeth Gyhoeddus (wedi'i nodi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch), gall y gwasanaethau brys a gweithredwr y safle gysylltu â chi gyda'r cyngor canlynol:

  • Ewch i mewn i'r eiddo a chau pob drws a ffenest
  • Diffoddwch bob system awyru a phob fflam noeth
  • Sicrhewch fod pob ffynhonnell danio wedi'i diffodd, e.e. systemau gwres canolog, goleuadau peilot, cyfarpar trydan, llosgi, cyfarpar weldio/torri
  • Peidiwch â gadael eich adeilad oni bai bod tân ynddo neu ddifrod sylweddol iddo
  • Gwrandewch ar y radio lleol am wybodaeth
  • Sicrhewch fod unrhyw ymwelwyr â'ch eiddo yn gwybod am unrhyw gyfarwyddiadau a roddir
  • Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i chi gan y gwasanaethau brys
  • Os cewch eich cynghori i wneud felly, byddwch yn barod i adael yr adeilad a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir.

Ar ôl Argyfwng

Gweler: Ar ôl Argyfwng