Ffliw Pandemig
Mae ffliw pandemig yn un o'r heriau naturiol mwyaf difrifol sy'n
debygol o effeithio ar y DU. Bydd partneriaid yr SWLRF yn gweithio
gyda'i gilydd a, chydag arweiniad y llywodraeth, byddant yn paratoi
ar gyfer ffliw pandemig er mwyn helpu i leihau ei effaith.
Camau Gweithredu Allweddol
Un o rannau allweddol lleihau ei effaith yw cynyddu
ymwybyddiaeth o sut gallwch baratoi i reoli/lleihau eich perygl
eich hun o ddal a lledaenu'r firws, megis dilyn camau hylendid
sylfaenol a chanllawiau'r llywodraeth.
Hylendid da
Atal germau rhag lledaenu yw'r ffordd fwyaf effeithiol o arafu
lledaeniad clefydon megis ffliw moch. Dylech bob amser:
- olchi'ch dwylo'n rheolaidd gyda sebon a
dŵr
- glanhau arwynebau'n rheolaidd i gael gwared
ar germau
- defnyddio hancesi papur i orchuddio'ch ceg
a'ch trwyn pan rydych yn pesychu neu'n tisian
- rhoi hancesi papur wedi'u defnyddio mewn bin
cyn gynted â phosib
Mwy o wybodaeth
Ffliw Pandemig
Ffliw Moch