Yn Achos Argyfwng (ICE)

Mae rhoi cysylltiadau ICE (Yn Achos Argyfwng) yn eich ffôn symudol neu'ch waled yn syniad gwych. Os ydych yn rhoi ICE yng nghysylltiadau eich ffôn gyda rhif, bydd y gwasanaethau brys yn gwybod â phwy bydd angen iddynt gysylltu yn ystod argyfwng.

Os ydych yn defnyddio llyfr ffôn eich ffôn symudol i storio enw a rhif rhywun y dylid cysylltu ag ef/hi os byddwch chi mewn argyfwng, ychwanegwch y llythrennau ICE o flaen yr enw, er enghraifft, ‘ICE Mam’ neu ‘ICE Joe Bloggs’. Sicrhewch fod y person y mae ei fanylion rydych yn eu rhoi wedi cytuno i fod yn ‘bartner ICE’ i chi. Dylech hefyd sicrhau bod gan eich partner ICE restr o bobl i gysylltu â nhw ar eich rhan chi. Mae'r rhan fwyaf o weithredwyr ffonau symudol yn cynnig apps ICE am ddim i chi eu lawrlwytho i'ch ffôn.

Os nad ydych yn defnyddio ffôn symudol, ysgrifennwch ICE ar ddarn o gerdyn gyda'ch manylion cyswllt argyfwng arno a'i gario yn eich waled neu'ch pwrs.