Croeso i Seaport

Symudwch y llygoden o gwmpas y dref i'ch helpu i chwilio am yr argyfyngau.

Play the What if? games
Damweiniau Diwydiannol

Damweiniau Diwydiannol

Mae rhai safleoedd diwydiannol yn defnyddio cemegeau a deunyddiau peryglus a all achosi niwed difrifol i bobl a'r amgylchedd.

Gwnewch ein cwis
Tywydd Garw

Tywydd Garw

Mae'r Deyrnas Unedig yn cael tywydd gwael oherwydd ei hinsawdd sy'n gallu achosi:

  • Glaw neu eira trwm
  • Gwyntoedd cryf
  • Tymereddau poeth ac oer
Gwnewch ein cwis
Isadeiledd Dwys

Isadeiledd Dwys

Mae'r wlad yn dibynnu ar nwy, trydan, dŵr, petrol, ffonau a banciau. Isadeiledd dwys yw'r enw am y rhain. Gallai colli un o'r rhain achosi problemau.

Gwnewch ein cwis
Damweiniau Trafnidiaeth

Damweiniau Trafnidiaeth

Gall argyfyngau trafnidiaeth ddigwydd o ganlyniad i ddamweiniau neu dywydd garw megis eira neu lifogydd gyda phobl yn gaeth yn eu ceir.

Gwnewch ein cwis
Llifogydd

Llifogydd

O dro i dro, gall llifogydd ddigwydd yn yr ardaloedd lle rydym yn byw. Gall glaw trwm achosi cynnydd yn lefelau afonydd a thir llaith/gwlyb a pheri i ddraeniau gael eu rhwystro.

Gall llifogydd o'r môr ddigwydd yn ystod llanwau uchel a stormydd.

Mae lefelau'r môr yn codi'n raddol o ganlyniad i gynhesu byd-eang.

Gwnewch ein cwis Play the Flooding Game
Pandemig

Pandemig

Digwyddiad byd-eang pan fo llawer o bobl yn gallu cael eu heintio gan feirws neu haint.

Gwnewch ein cwis
Clefyd Anifail

Clefyd Anifail

Gall anifeiliaid gario llawer o glefydau gwahanol, er enghraifft:

  • Clwy'r Traed a'r Genau
  • Ffliw Adar
  • Ffliw Moch
Gwnewch ein cwis
Tanau Coedwig/Glaswellt

Tanau Coedwig/Glaswellt

Mae tanau'n difetha miloedd o erwau o goedwigoedd a glaswelltiroedd ac yn lladd bywyd gwyllt gan gostio miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i'r wlad.

Gwnewch ein cwis
Prinder Tanwydd

Prinder Tanwydd

Mae petrol yn danwydd y mae pawb yn dibynnu arno i gyrraedd yr ysgol neu'r gwaith. Weithiau, oherwydd problemau gyda pheiriannau neu streiciau, gall y cyflenwad brinhau.

Gwnewch ein cwis
Llygredd

Llygredd

Rydym yn byw ar ynys a gallai unrhyw ddigwyddiad lle caiff cemegau neu ddeunyddiau peryglus neu olew eu rhyddhau i'r môr achosi niwed i'r canlynol:

  • Yr amgylchedd
  • Bywyd y môr
  • Adar y môr
Gwnewch ein cwis