Sut i adfer yn dilyn llifogydd

Mae'r llifogydd diweddar yng Nghastell-Nedd Port Talbot wedi effeithio ar filoedd o dai a busnesau ac mae llawer o drigolion bellach yn wynebu'r gwaith glanhau torcalonnus.

Isod ceir cyngor defnyddiol i'ch helpu i adfer yn dilyn llifogydd.

Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant

Os ydych chi wedi dioddef o lifogydd, cysylltwch â'ch cwmni yswiriant a dilynwch ei gyngor. Os nad oes gennych yswiriant, mae'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn cynnig cymorth drwy ffonio 01299 403055.

Cyn i chi ddechrau glanhau, tynnwch luniau i wneud cofnod o'r difrod a nodi uchder y dŵr llifogydd. Gofynnwch i'ch cwmni yswiriant cyn taflu eitemau does dim modd eu glanhau, fel matresi a charpedi.

Gwirio a ydych chi'n gallu dychwelyd adref

Os ydych chi wedi gorfod gadael eich cartref, gwiriwch gyda'r gwasanaethau brys ei bod hi'n ddiogel cyn i chi ddychwelyd.

Efallai bydd angen i'r cwmnïau cyfleustodau gynnal archwiliad diogelwch ar eich cartref neu fusnes cyn i chi ddechrau defnyddio'r dŵr, nwy a thrydan eto.

Glanhau a thrwsio eich cartref

  • Cymerwch gyngor gan arbenigwyr cyn dechrau trwsio eich eiddo. Bydd angen i'r rhan fwyaf o'r gwaith trwsio ar ôl llifogydd gael ei wneud gan weithwyr proffesiynol a fydd yn cael eu penodi gan eich cwmni yswiriant
  • Mae'n bosib i ddŵr llifogydd gynnwys sylweddau niweidiol fel carthffosiaeth, cemegau a gwastraff anifeiliaid a allai eich gwneud chi'n sâl. Os byddwch chi'n dod i gysylltiad â dŵr llifogydd, golchwch eich dwylo'n drylwyr.
  • Wrth lanhau'ch cartref ar ôl llifogydd, gwisgwch fenig, mwgwd wyneb ac esgidiau cadarn. Cliciwch yma i weld sut i lanhau'ch cartref yn ddiogel ar ôl llifogydd.
  • Cyn i chi ddechrau glanhau, tynnwch luniau i wneud cofnod o'r difrod a nodi uchder y dŵr llifogydd. Gofynnwch i'ch cwmni yswiriant cyn taflu eitemau does dim modd eu glanhau, fel matresi a charpedi.
  • Os ydych chi'n defnyddio gwresogyddion neu beiriannau dadleithio i sychu'ch eiddo, gwnewch yn siŵr bod awyru da. Peidiwch â defnyddio generaduron petrol neu ddiesel dan do – gall nwyon y peiriannau fod yn beryglus iawn.
  • Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am waith adfer ar ôl llifogydd, megis cael gwared ar fagiau tywod neu ddodrefn wedi'u difrodi, ffoniwch 01639 686868.

Cronfeydd Cymorth Brys

Efallai gallwch adennill costau llifogydd yn eich cartref drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol.

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu grant nad oes angen i chi ei dalu yn ôl, o'r enw Taliad Cymorth Brys. Mae'r grant hwn yn helpu gyda chostau hanfodol ar ôl argyfwng, neu os ydych wedi dioddef trychineb fel llifogydd neu dân yn eich cartref, neu galedi ariannol eithriadol am resymau gan gynnwys oedi gyda’ch budd-daliadau.

Bydd y taliad yn eich helpu i dalu am fwyd, nwy a thrydan, dillad a theithio mewn achos o argyfwng. Nid yw’r gronfa wedi’i chynllunio i dalu diffygion ariannol parhaus.

Gallwch wneud cais am gymorth gan y Gronfa Cymorth Dewisol drwy'r ddolen

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gwblhau'r cais am Gronfa Cymorth Dewisol, ewch i'r Siop dan yr Unto yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd lle bydd ymgynghorydd gwasanaethau cwsmeriaid yn hapus i eistedd â chi er mwyn cwblhau'r cais.

Amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd yn y dyfodol

I leihau difrod o ganlyniad i lifogydd yn y dyfodol, gallwch ymgymryd â mesurau cydnerthu megis gosod teils yn hytrach na charpedi, gosod socedi trydanol yn uwch neu sicrhau bod eiddo gwyn yn cael eu gosod yn uwch na lefel y llawr. Bydd y rhain yn eich helpu i adfer os bydd eich cartref yn dioddef o lifogydd yn y dyfodol.

Gallech hefyd ystyried a fyddai'ch cartref yn elwa o fesurau lliniaru llifogydd megis gosod llifddorau neu amddiffynfeydd llifogydd a briciau awyru awtomataidd a gosod pibellau falfiau atal ar gyfer toiledau, sinciau, baddonau a chawodydd. Diben y cynhyrchion yw lleihau dŵr llifogydd sy'n dod i mewn i'ch eiddo.

Gellir dod o hyd i gyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau llifogydd yn Bluepages.

Am ragor o wybodaeth a chyngor, darllenwch gyngor y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol ar sut i ddiogelu'ch eiddo rhag llifogydd.

Gallwch hefyd ffonio'ch cwmni yswiriant a gofyn am Flood Re. Menter ar y cyd rhwng y llywodraeth a chwmnïau yswiriant yw Flood Re. Ei nod yw sicrhau bod yswiriant llifogydd fel rhan o bolisïau yswiriant eiddo yn fwy fforddiadwy. Ewch i Flood Re am ragor o wybodaeth

Amddiffyn eich iechyd meddwl

Byddwch yn ystyriol o'ch iechyd meddwl eich hun wrth adfer yn dilyn llifogydd. Mae'n gyffredin i bobl deimlo'n bryderus yn dilyn llifogydd. Fodd bynnag, mae pryder yn rhywbeth dros dro fel arfer; mae'r mwyafrif o bobl yn wydn ac yn gallu ymdopi â llifogydd, er bod hynny'n achosi pryder iddynt.

Os ydych yn parhau i deimlo'n bryderus yn dilyn llifogydd, ewch i weld eich meddyg teulu a fydd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ffynonellau cefnogaeth pellach. Mae anghenion cefnogaeth y mwyafrif o bobl yn cael eu ddiwallu gan bobl sy'n agos atynt.

Help gan sefydliadau eraill:

  • Mae gwefan GOV.UK a gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor ymarferol ar baratoi ar gyfer llifogydd a beth i'w wneud yn ystod ac ar ôl llifogydd.
  • Mae Cadw yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am lifogydd ac adeiladau hanesyddol
  • Mae ASDA yn cynnig cymorth trwy Gronfa Argyfwng