. Deddfwriaeth
Er mwyn i ni allu cyflawni ein dyletswyddau yn unol â
deddfwriaeth statudol, rydym yn gweithio'n agos gyda'r heddlu, y
gwasanaeth tân ac achub, y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth
iechyd, Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Asiantaeth Forol/Asiantaeth
Gwylwyr y Glannau a sefydliadau gwirfoddol i sicrhau bod
gweithdrefnau ar waith ac wedi'u rhoi ar brawf rhag ofn y bydd y
gwaethaf yn digwydd.
Isod ceir y pedwar rheoliad statudol penodol sy'n disgrifio'r
dyletswyddau y mae'n rhaid i ni lynu wrthynt:
- Deddf
Argyfyngau Sifil Posibl 2004
-
Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015
(COMAH)
- Rheoliadau
Diogelwch Piblinellau 1996
- Rheoliadau
Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i'r Cyhoedd) 2001
(REPPIR)