Hepgor gwe-lywio
Chwillio
|
Map o'r Wefan
|
Cysylltu â ni
|
English
Chwillio
Ynglŷn â’r UG
Paratoi ar gyfer Argyfyngau
Parhad Busnes
Newyddion
Cyhoeddiadau
Cornel Plant
...
Paratoi ar gyfer Argyfyngau
Cyn Argyfwng
⠀
Paratoi ar gyfer Argyfyngau
⠀
Run Hide Tell
Yn Achos Argyfwng (ICE)
Cyngor ar Risgiau Penodol
Ar ôl Argyfwng
Yn Ystod Argyfwng
Cyn Argyfwng
Cyn Argyfwng
Cyngor i'ch helpu i baratoi
Byddwch yn ymwybodol o'r peryglon yn eich ardal - cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld y
peryglon yn eich ardal
Lluniwch restr o gysylltiadau argyfwng y gallai fod eu hangen arnoch, er enghraifft manylion cyswllt yr ysgol, y gwaith, yswiriant a'r deintydd, a'u cadw lle rydych yn gwybod y byddwch yn dod o hyd iddynt yn hawdd
Ystyriwch greu Cynllun Argyfwng i'r Cartref.
Os ydych mewn parth llifogydd, ystyriwch
amddiffynfeydd llifogydd
Byddwch yn ymwybodol o le caiff dŵr, nwy a thrydan eu cyflenwi i'ch cartref a dysgwch sut i'w diffodd.
Sicrhewch fod gennych yswiriant a'ch bod yn gwybod lleoliad y dogfennau. Mae'n bosib hefyd yr hoffech baratoi trwy lungopïo'r dogfennau a'u cadw'n ddiogel mewn lleoliad arall y tu allan i'ch cartref.
Sicrhewch eich bod wedi storio cysylltiadau
ICE ('In Case of Emergency')
yn eich ffôn symudol.
Ystyriwch gyflawni cwrs cymorth cyntaf fel y byddwch yn barod ar gyfer argyfyngau meddygol.
drefnu
cwdyn cydio
i'w gadw gartref ac yn y car a rhowch ynddo bethau megis cysylltiadau, dogfennau pwysig a gwefrwr ffonau symudol.
Dylai'ch Cwdyn Cydio gynnwys:
copi o'ch Cynllun Argyfwng i'r Cartref
copi o ddogfennau pwysig mewn cwdyn diddos (yswiriant, pasbort, tystysgrif geni, copïau o ffotograffau teuluol etc)
(weindio neu fatri) a batris sbâr
radio (weindio neu fatri) a batris sbâr
pecyn cymorth cyntaf
meddyginiaeth/nwyddau iechyd a chopïau o slipiau presgripsiwn
nwyddau ymolchi a hylendid menywod
nwyddau gofal plant (cewynnau, bwyd, teganau, dillad, blanced etc)
set ychwanegol o allweddi tŷ a char
ffôn symudol a'i wefrwr
waled, pwrs, cardiau banc
nodiadur a phensil
sach ddu/leiner bin
cludwr, coler, tennyn a bwyd anifail anwes
dŵr potel
bariau byrbrydau
sbectol sbâr
Gwerthuso'r Dudalen
×
My Rating
Da
Cyfartalog
Gwael
Dywedwch Wrthym Pam
(Uchafswm 1000 Cymeriadau)
*
Cyfeiriad e-bost
Cadarnhewch gyfeiriad e-bost
Gwerthuso'r Dudalen
Da
Cyfartalog
Gwael