Eira a thywydd oer

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r DU wedi profi cyfnodau o dymereddau isel ac eira parhaus sy'n gallu cael effaith sylweddol ar fywyd pob dydd. Mae'r rhain wedi cynyddu nifer yr anafiadau oherwydd damweiniau a chwympiadau, methiant dulliau cyfathrebu a chyflenwadau pŵer a chau rhwydweithiau trafnidiaeth.

Yn y gaeaf, oherwydd y tywydd oer a'r lefelau isel o olau haul ar ôl troi'r clociau'n ôl, mae llawer ohonom yn teimlo ein bod mewn iechyd gwael. Gall tywydd oer eithafol effeithio ar bob un ohonom. Fodd bynnag, gall grwpiau penodol fod mewn perygl penodol. Mae'r rhai sy'n ifanc iawn, yn hen iawn neu sydd â chyflyrau meddygol eisoes yn dueddol i ddioddef mwy. Gall treulio gormod o amser yn yr oerfel achosi ewinrhew neu hypothermia sy'n gallu peryglu bywyd. Gall glaw droi'n iâ lle mae tymheredd arwynebau islaw'r rhewbwynt. Gall hyd yn oed swm bach o iâ fod yn hynod beryglus i fodurwyr a cherddwyr.

Felly, beth gallwn ni ei wneud i aros yn iach dros y gaeaf?

Mae'r llywodraeth wedi rhoi cyngor ar aros yn ddiogel ac yn iach dros y gaeaf. Caiff ei dargedu'n bennaf at bobl 60+ oed, teuluoedd ar incwm isel a phobl sy'n byw ag anabledd. Fodd bynnag, mae'r cyngor cyffredinol yn y llyfryn ‘Cadw'n Gynnes, Cadw'n Iach’ yn berthnasol i bawb. Mae'r llyfryn hwn yn hyrwyddo ei bum awgrym gorau am gadw'n gynnes ac yn iach:

  • Gwresogi'ch cartref yn dda.
    Trwy osod eich gwres ar y tymheredd cywir (18-21C or 64-70 F), gallwch gadw'ch cartref yn gynnes a'ch biliau mor isel â phosib.
  • Cael cymorth ariannol
    Mae grantiau, budd-daliadau a ffynonellau cyngor ar gael i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon, gwella'ch system gwresogi neu helpu gyda'ch biliau. Mae'n werth eich amser i hawlio'r holl fudd-daliadau rydych yn gymwys ar eu cyfer.
  • Bwyta'n dda.
    Mae bwyd yn ffynhonnell egni hanfodol sy'n helpu i gadw'ch corff yn gynnes. Ceisiwch sicrhau eich bod yn cael prydau a diodydd twym yn rheolaidd trwy gydol y dydd.
  • Cael brechiad ffliw
    Gallwch gael brechiad ffliw am ddim gan eich meddyg teulu i'ch diogelu yn erbyn ffliw tymhorol os ydych dros 65 oed, yn feichiog neu â chyflwr iechyd tymor hir.
  • Gofalwch amdanoch chi ac am eraill.
    Ar ddiwrnodau oer, ceisiwch osgoi mynd allan; fodd bynnag, os oes angen, cofiwch wisgo dillad cynnes. Os oes gennych gymydog neu berthynas hŷn, cadwch lygad arnynt yn ystod y gaeaf i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn iach.

Cymorth a Chyngor

Llinell Gymorth Gwres Cartref -  0800 33 66 99 (9am-8pm Llun-Gwe a 10am-2pm Sad) neu ewch i www.homehethelpline.org.uk

Llinell gymorth am ddim sy'n helpu i sicrhau grantiau ar gyfer inswleiddio cartrefi am ddim a ffioedd wedi gostwng neu ‘gymdeithasol’ gan gyflenwyr ynni, yn ogystal â rhoi cyngor ar reoli biliau a lleihau'r ynni rydych yn ei ddefnyddio.

Cyngor Ar Bopeth – 08444 77 1010 (10am-4pm Llun - Gwe) neu ewch i www.citizensadvice.org.uk Bydd eich swyddfa leol yn gallu rhoi cyngor i chi ar fudd-daliadau, gwresogi, grantiau a dyledion.

Ewch i we-dudalennau Swyddfa’r Met  'Get Ready for Winter' am gyngor a dolenni i amrywiaeth o sefydliadau i helpu unigolion, teuluoedd a chymunedau i baratoi ar gyfer y Gaeaf.