Yn Achos Argyfwng (ICE)
Mae rhoi cysylltiadau ICE (Yn Achos Argyfwng) yn eich ffôn
symudol neu'ch waled yn syniad gwych. Os ydych yn rhoi ICE yng
nghysylltiadau eich ffôn gyda rhif, bydd y gwasanaethau brys yn
gwybod â phwy bydd angen iddynt gysylltu yn ystod argyfwng.
Os ydych yn defnyddio llyfr ffôn eich ffôn symudol i storio enw
a rhif rhywun y dylid cysylltu ag ef/hi os byddwch chi mewn
argyfwng, ychwanegwch y llythrennau ICE o flaen yr enw, er
enghraifft, ‘ICE Mam’ neu ‘ICE Joe Bloggs’. Sicrhewch fod y person
y mae ei fanylion rydych yn eu rhoi wedi cytuno i fod yn ‘bartner
ICE’ i chi. Dylech hefyd sicrhau bod gan eich partner ICE restr o
bobl i gysylltu â nhw ar eich rhan chi. Mae'r rhan fwyaf o
weithredwyr ffonau symudol yn cynnig apps ICE am ddim i chi eu
lawrlwytho i'ch ffôn.
Os nad ydych yn defnyddio ffôn symudol, ysgrifennwch ICE ar
ddarn o gerdyn gyda'ch manylion cyswllt argyfwng arno a'i gario yn
eich waled neu'ch pwrs.