Paratoi ar gyfer y Gaeaf
Isod rhestrir pethau ychwanegol i chi eu hystyried er mwyn
paratoi ar gyfer y gaeaf:
- Sicrhewch fod eich system wresogi'n cael ei
gwasanaethu'n rheolaidd a bod simneiau'n cael eu hysgubo
- Sicrhewch fod awyru digonol ar gyfer
gwresogyddion nwy a stofiau sy'n llosgi glo neu bren.
- Mae cynlluniau cymorth ariannol ar gael a all
helpu gyda chostau gwresogi ac inswleiddio cartrefi. Gwiriwch a
ydych yn gymwys.
- Gwiriwch fod tapiau cau'n gweithio'n
gywir.
- Trefnwch i unrhyw flancedi trydan gael eu
gwasanaethu o leiaf bob tair blynedd.
- Gwiriwch fod larymau mwg/tân yn gweithio a
newid unrhyw fatris gwefr isel.
- Cadwch gyflenwad o halen a thywod wrth law
i'w cymysgu cyn taenu ar lwybrau a grisiau rhewllyd.
- Sicrhewch fod esgidiau priodol wrth law e.e.
esgidiau cynnes gyda gafael da ar y gwadnau.
- Cofiwch y bydd sawl haen o ddillad yn
gynhesach nag un haen drwchus gan y byddant yn dal haenau o aer
cynnes. Mae bod yn weithgar yn cynhyrchu gwres. Bydd prydau a
diodydd twym yn helpu i'ch cadw'n gynnes.
- Sicrhewch fod gennych ddigon o feddyginiaeth
annwyd a ffliw gartref. Bydd eich fferyllydd lleol yn gallu rhoi
cyngor i chi ar reoli mân afiechydon. Dilynwch gamau hylendid
sylfaenol i osgoi trosglwyddo germau i bobl eraill.
- Sicrhewch eich bod yn derbyn gwahoddiad eich
meddyg teulu i gael brechiad ffliw blynyddol.
- Archebwch bresgripsiynau rheolaidd mewn da
bryd.
- Stociwch eich cegin gyda bwyd sylfaenol
hir-oes.
- Gwyliwch/gwrandewch ar y newyddion a'r
adroddiadau tywydd lleol neu ewch i wefan Swyddfa'r Tywydd
(www.metoffice.gov.uk/) bob dydd
i gael y cyngor, y rhybuddion a'r rhagolygon tywydd
diweddaraf.
- Pan gaiff tywydd eithafol ei ragolygu/brofi,
ystyriwch a yw pob un o'r teithiau rydych yn bwriadu mynd arnynt yn
hanfodol. Dylech fonitro'r amodau traffig a thywydd a chynlluniwch
eich teithiau. Cysylltiadau defnyddiol - www.help2travel.co.uk/mattisse/index.htm neu
www.highways.gov.uk neu
Linell Wybodaeth Asiantaeth y Priffyrdd ar 0300 123 5000.
- Os ydych yn teithio mewn car, sicrhewch eich
bod yn cynnal archwiliad o'ch cerbyd cyn cychwyn, cario cit
argyfwng tywydd eithafol yn eich cerbyd (sgrafell rew a dadrewydd,
tortsh, dillad cynnes, blanced, esgidiau, cit cymorth cyntaf,
gwifrau cyswllt batri, rhaw os yw'n debygol o fwrw eira, bwyd a
diodydd).
- Cadwch lygad am unrhyw aelodau, ffrindiau neu
gymdogion sy'n oedrannus er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn
gynnes.
- Mae Age UK hefyd wedi cynhyrchu'r daflen
‘Winter Wrapped Up’, arweiniad i gadw'n iach, yn gynnes ac mewn
cysylltiad â phobl eraill. I gael mwy o wybodaeth am yr uchod a
syniadau a chyngor ychwanegol, gweler y manylion cyswllt isod.