. Deddfwriaeth

Er mwyn i ni allu cyflawni ein dyletswyddau yn unol â deddfwriaeth statudol, rydym yn gweithio'n agos gyda'r heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth iechyd, Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Asiantaeth Forol/Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a sefydliadau gwirfoddol i sicrhau bod gweithdrefnau ar waith ac wedi'u rhoi ar brawf rhag ofn y bydd y gwaethaf yn digwydd.

Isod ceir y pedwar rheoliad statudol penodol sy'n disgrifio'r dyletswyddau y mae'n rhaid i ni lynu wrthynt:

  1. Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004
  2. Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 (COMAH)
  3. Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996
  4. Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i'r Cyhoedd) 2001 (REPPIR)