Pam byddai angen i fi aros gartref?

Gallai fod cemegau neu sylweddau peryglus, mwg o danau yn yr ardal neu berygl anhysbys yn eich cymdogaeth. Yn yr amgylchiadau hyn, mae weithiau'n well aros dan do nes cael cyngor gwahanol.

Cyngor:

Ewch i Mewn

Ewch i mewn a chadw draw o ddrysau a ffenestri. Cadwch nhw ar gau.

Arhoswch Mewn

Arhoswch y tu mewn cyhyd ag y mae'n ddiogel gwneud hynny.

Cewch Wybod

Trowch i'ch sianeli radio a theledu a gwefannau newyddion lleol - bydd ymatebwyr argyfwng lleol (e.e. yr heddlu a'r gwasanaethau tân) yn defnyddio'r rhain i roi gwybodaeth i chi.

Mae'r cyngor hwn, Ewch i mewn, Arhoswch mewn, Cewch Wybod, yn cael ei gydnabod a'i ddefnyddio ar draws y byd mewn argyfyngau mawr sy'n gofyn i chi aros dan do. Bydd y gorsafoedd radio lleol canlynol yn darparu gwybodaeth yn rheolaidd i chi ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd OND COFIWCH fod posibilrwydd y gallai'r argyfwng fod wedi tarfu ar eich cyflenwad trydan ac felly rydym hefyd yn argymell i chi brynu radio weindio neu a weithredir gan fatri ynghyd â chyflenwad o fatris wrth gefn.

Gorsafoedd radio lleolEwch i Mewn, Arhoswch Mewn, Cewch Wybod

Cliciwch ar y dolenni canlynol ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf ac i wrando ar-lein:

Efallai bydd gofyn i chi aros yn eich cartref am gyfnod hwy na'r disgwyl ac felly dylech chi gadw digon o gyflenwadau sy'n diwallu'ch anghenion aelwyd am o leiaf 72 awr.

Cofiwch feddwl am yr hyn y byddai angen arnoch petai'ch cyflenwad trydan, nwy neu ddŵr wedi'i dorri o ganlyniad i'r digwyddiad.

Dylai eich rhestr stoc gynnwys:

  • Bwyd hir oes a dŵr potel (2.5 litr y person y dydd i ganiatáu am yfed)
  • Bwyd anifeiliaid anwes (os bydd angen hwn)
  • Stof wersylla Canhwyllau/matsis
  • Cit cymorth cyntaf
  • Teclyn agor caniau â llaw
  • Tortsh a batris
  • Nwyddau meddyginiaeth personol