Beth os oes angen i mi adael fy nghartref?
Gallai fod adegau pan fo argyfwng ac mae angen i chi adael eich
cartref. Gallai hyn fod oherwydd llifogydd, tân neu ddigwyddiadau
sy'n achosi difrod adeileddol. Anaml iawn y bydd angen i rywun
adael ei gartref ond efallai na fydd gennych lawer o amser i adael
eich cartref ac felly mae'n well bod yn barod ar gyfer argyfwng a
pharatoi cwdyn i fod yn barod
i'w godi a mynd ag ef gyda chi.
Os oes rhaid i chi adael eich cartref, cofiwch:
- wrando ar y gwasanaethau brys
- eich drysau
- mynd â'ch cwdyn cydio gyda chi
- a oes unrhyw aelodau o'ch teulu neu ffrindiau
a allai fod ag angen gwybod ble rydych chi
- hysbysu'r gwasanaethau brys am unrhyw
gymdogion y gallai fod angen cymorth arnynt.