Ar ôl Argyfwng
Ar ôl i'r gwasanaethau brys ymateb i'r argyfwng, y flaenoriaeth
fydd eich achub chi, eich cymuned a busnesau.
Beth dylech chi ei ystyried ar ôl cyrraedd adref:
- Gwiriwch eich tŷ, yn union fel y byddech yn ei wneud ar ôl dod
adref o wyliau
- Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant os yw'n briodol
- Cysylltwch â'r cwmni dŵr, nwy, trydan neu ffôn fel sy'n
briodol
- Siaradwch â'ch cymdogion; sicrhewch fod eich cymuned ar y
ffordd i adfer ei hun
Byddwch yn ymwybodol y gallai nifer o wasanaethau'r awdurdod
lleol fod yn rhan o'r ymateb i'r argyfwng a'r broses adfer. Felly,
efallai na fydd gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu ‘fel arfer’
yn ystod ac yn syth ar ôl digwyddiad.
Y Gefnogaeth Sydd Ar Gael
Ni fyddwch ar eich pen eich hun, bydd cefnogaeth ar gael. Gellir
cael hyn trwy'r awdurdod lleol a sefydliadau elusennol. Gwrandewch
ar eich radio i glywed mwy am y gefnogaeth sydd ar gael.
Yn dilyn argyfwng mawr, yn aml mae angen cymorth ar y rhai y mae
hwn wedi effeithio arnynt - boed hynny trwy brofiad uniongyrchol,
bod yn ffrindiau neu'n aelodau teulu y rhai a oedd yn yr argyfwng,
neu'r rhai y mae wedi effeithio arno mewn unrhyw ffordd - er mwyn
dychwelyd i'w bywydau arferol. Gall hyn fod ar ffurf canolfan,
llinell gymorth neu wasanaeth gwe. Bydd mwy o wybodaeth am y mathau
o gymorth a chefnogaeth sydd ar gael yn cael ei chyhoeddi ar ôl
digwyddiad.